P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Madelaine Hallam, ar ôl casglu 407 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y gall holl rieni plant dwyflwydd oed sy'n gweithio gael hyd at 15 awr o ofal plant am ddim o fis Ebrill 2024.
Ni fydd y budd hwn yn gymwys i bob teulu sy'n gweithio yng Nghymru, fodd bynnag, gan na fydd y rhaglen "Dechrau'n Deg" gyfatebol yn ehangu i bob ardal. Ystyr hyn yw fod teuluoedd Cymru filoedd o bunnoedd yn waeth eu byd na chymheiriaid yn Lloegr, er gwaethaf honiadau gan y Prif Weinidog fod y cynnig yng Nghymru yn "well" gan ei fod yn cynnig 48 wythnos yn hytrach na 38 wythnos ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed.
Gwybodaeth ychwanegol:
Linc i'r cynnig yn Lloegr:
Pan holwyd Mark Drakeford am y mater
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-65026019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Clwyd
· Gogledd Cymru